Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 7 Mawrth 2022
Amser:
14.00 -
15.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12645
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Fframweithiau cyffredin
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
2.1 Fframwaith cyffredin dros dro ar gymorth amaethyddol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gymorth amaethyddol.
2.2 Fframwaith Cyffredin dros dro ar reoli pysgodfeydd a chefnogaeth
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a’r ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar reoli pysgodfeydd a chefnogaeth.
2.3 Fframwaith cyffredin ar sylweddau dros dro sy'n disbyddu osôn a nwyon tŷ gwydr fflworinedig
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar sylweddau sy'n disbyddu osôn a nwyon tŷgwydr fflworinedig.
2.4 Fframwaith cyffredin dros dro ar iechyd anifeiliaid
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor Craffu ar Fframweithiau Cyffredin Tŷ’r Arglwyddi at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar iechyd anifeiliaid.
3 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
3.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cydsynio i reoliadau
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2022.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal.
4.2 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
4.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Llywydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Llywydd ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.
4.4 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a llwyth gwaith y dyfodol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch cynlluniau gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol mewn perthynas â rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth y DU. Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a llwyth gwaith y dyfodol.
4.5 Gohebiaeth gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd: Terminoleg briodol i ddisgrifio pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch terminoleg briodol i ddisgrifio pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
4.6 Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru).
4.7 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch i’w adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau.
4.8 Gohebiaeth gan Bwyllgor y Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant, Senedd yr Alban: Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gynullydd Pwyllgor y Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant yn Senedd yr Alban ynghylch ymchwiliad y pwyllgor hwnnw i farchnad fewnol y DU.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau - trafod y nodyn cyngor cyfreithiol
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelwch Adeiladau, a chytunwyd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7 Trafod cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor y cytundeb rhwng y DU a Serbia ar Aildderbyn Pobl sy'n Preswylio heb Awdurdod, a chytunwyd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundeb yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2022.
8 Rhaglen fframweithiau cyffredin - trafodaeth
Trafododd y Pwyllgor y rhaglen fframweithiau cyffredin a chytunwyd i drafod camau gweithredu pellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Rhenti Masnachol
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws).